Tuesday, May 11, 2010

Hwyl fawr y Cotswolds, helo Caerfaddon (o, a Chasnewydd)

Bydd dim mwy o deithiau bach cyfleus i bentre (ia PENTRE) Nailsworth, yn y Cotswolds, i wylio gemau oddi cartref Wrecsam yn erbyn Forest Green Rovers y tymor nesaf wedi iddynt disgyn allan o Uwchadran y Blue Square. Yn eu lle daw Casnewydd, pencampwyr di-os Blue Square South, ac hefyd Bath City, a ennillodd eu gêm ail gyfle ar y penwythnos. Dwy gêm agos iawn i ni tymor nesaf.
Stop nesa, y Good Beer Guide, i weld ble mae'r dafarn agosa sy'n gwerthu'r hyfryd Bath Ales.